Equal Opportunities
At Transport for Wales we value diversity. It makes us stronger, helps us understand our customers better, make better decisions and be more innovative. Everyone’s different and has their own perspective so we’re building a diverse team that mirrors the communities we serve. Through this we’re determined to be one of Wales' leading inclusive employers. We’re creating an inclusive transport network that everyone in Wales can be proud of.
Who we are
At Transport for Wales, we’re on a mission to transform transport in Wales and make it fit for the future, whether that’s rail, bus, walking or cycling. We want to inspire a nation to change the way it travels, so that we all travel more sustainably and help to combat the climate emergency we’re all facing.
We’re an open and inclusive place to work, where everyone is welcome and our people are supported to reach their full potential. We want to create an environment where our people can grow and succeed. This is key to enabling us to deliver on the promises we’ve made to the people of Wales to build a sustainable transport network that meets their needs.
Role responsibilities
The Customer & Revenue Operations Manager is a critical role within our organisation where you will provide strategic and operational leadership across the revenue protection team.
You will be responsible for creating and delivering the Multi Modal Operational Revenue Protection Strategy, to ensure an efficient, robust, cost-effective Revenue Protection plan,maximising Revenue Opportunities and Initiatives across the business, including Rail and Bus, on board and all future transport offerings.
You will lead by example, inspiring your team to deliver exceptional customer service, whilst providing a safe, welcoming environment for all of our customers.
- Develop, support and implement revenue optimisation strategies. Aid and assist in the integration of new revenue initiatives and activities.
- Provide key reporting and actionable data across the revenue management teams.
- Mentor, guide and provide oversight to the team, supporting a growing a team of expert representatives.
- Provide strategic direction in support of critical revenue initiatives and goals. Partner with finance team to assist with budgeting, forecasting and strategic planning.
- To protect revenue by reducing levels of ticketless travel in line with TfW’s contractual requirements.
- Lead and support Revenue Protection exercises at stations and on board during special events and during planned disruption, including crowd control and ticket sales.
- Ensure equipment and system failures are reported and respond in a timely manner and implement emergency protocols to manage.
- Attend stakeholder meetings including Trade Union, TOC, BOC and other internal / external partners ensuring bidirectional communications on all revenue protection risks, strategies and intelligence which will ultimately reduce our revenue at risk.
Recognition and continued commitment to our new multi-modal ways of working as we evolve our integrated transport model.
You will be required to work unsociable hours including evenings, weekends leading and supporting the team.
Who we’re looking for
- Demonstrate strong leadership and problem-solving skills
- Excellent written and oral communications skills
- Strong analytical skills
- Experience of working in a similar industry
- Knowledge of commercial contracts, Revenue Operations, cash handling regulations and General Data Protection Regulations (GDPR)
- Provide solutions in pressurised situations and confidently make decisions with limited guidance
- Comfortable and competent performing workflow analysis assessments
- Proficient with Microsoft Office Suite, particularly Excel
- Be able to actively listen and source support for team members such as chain of care, welfare concerns and absence management
- Ability to handle conflict situations and remain calm
Welsh Language Skills
The ability to speak/write Welsh would make a great addition to your application, but it is not essential for this role.
Transport for Wales supports and promotes the use of the Welsh Language by employees and will encourage them to develop, improve and maintain their Welsh Language skills. We fully support our people who want to improve their Welsh language skills, and personal development for Welsh Language skills are offered in a variety of ways such as online learning, classroom courses and funding attendance at local community courses.
Next steps
Does this role sound like the opportunity you are looking for? Do you want to find out more? See attached Job Description for further details.
TFW is a Disability Confident employer. We are happy to discuss any reasonable adjustments you may need in the recruitment process or as part of the role if you are successful.
This advert will close at midnight on the day of the application closing date stated above. We do encourage you to submit your application as early as possible.
Please note, we reserve the right to close this vacancy early if we receive sufficient applications.
Cyfle Cyfartal
Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, i wneud penderfyniadau gwell a bod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb eu safbwynt eu hunain felly rydym yn creu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Drwy hyn, rydym yn benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru. Rydym yn creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono.
Pwy ydyn ni
Ein cenhadaeth yn Trafnidiaeth Cymru yw trawsnewid trafnidiaeth yng Nghymru a’i gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol, boed hynny ar gyfer rheilffyrdd, bysiau, cerdded neu feicio. Rydyn ni eisiau ysbrydoli cenedl i newid y ffordd maen nhw’n teithio, fel bod pawb yn teithio’n fwy cynaliadwy ac yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd sy’n wynebu pawb.
Rydyn ni’n lle agored a chynhwysol i weithio, lle mae croeso i bawb a lle caiff ein pobl eu cefnogi i gyflawni eu llawn botensial. Rydyn ni am greu awyrgylch sy’n galluogi ein pobl i dyfu a llwyddo. Mae hyn yn allweddol i’n galluogi i gyflawni’r addewidion rydyn ni wedi’u gwneud i bobl Cymru er mwyn adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy sy’n diwallu eu hanghenion nhw.
Cyfrifoldebau’r swydd
Mae’r Rheolwr Gweithrediadau Cwsmeriaid a Refeniw yn rôl hanfodol yn ein sefydliad lle byddwch yn darparu arweinyddiaeth strategol a gweithredol ar draws y tîm diogelu refeniw.
Byddwch chi’n gyfrifol am lunio a chyflawni’r Strategaeth Diogelu Refeniw Gweithredol Aml-Fodd, i sicrhau cynllun Diogelu Refeniw effeithlon, cadarn a chost-effeithiol, gan fanteisio i’r eithaf ar Gyfleoedd a Chynlluniau Refeniw ar draws y busnes, gan gynnwys ar y Trenau a’r Bysiau, nawr ac i’r dyfodol.
Byddwch chi’n arwain drwy esiampl ac yn ysbrydoli eich tîm i ddarparu gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid, gan ddarparu amgylchedd diogel a chroesawgar i’n holl gwsmeriaid.
- Datblygu, cefnogi a gweithredu strategaethau optimeiddio refeniw. Cynorthwyo a helpu i integreiddio cynlluniau a gweithgareddau refeniw newydd.
- Darparu adroddiadau allweddol a data y gellir gweithredu arno ar draws y timau rheoli refeniw.
- Mentora, arwain a goruchwylio’r tîm, gan gefnogi tîm sy’n tyfu o gynrychiolwyr arbenigol.
- Darparu cyfeiriad strategol wrth gefnogi cynlluniau ac amcanion refeniw critigol. Gweithio mewn partneriaeth â’r tîm cyllid i helpu gyda chyllidebu, creu rhagolygon a chynllunio strategol.
- Diogelu refeniw drwy leihau nifer y bobl sy’n teithio heb docyn, yn unol â gofynion cytundebol TrC.
- Arwain a chefnogi ymarferion Diogelu Refeniw mewn gorsafoedd ac ar drenau yn ystod digwyddiadau arbennig ac yn ystod cyfnodau o darfu wedi’u cynllunio, gan gynnwys trefniadau rheoli torfeydd a gwerthu tocynnau.
- Sicrhau bod unrhyw offer neu systemau diffygiol yn cael eu riportio, bod yna ymateb prydlon a bod protocolau brys yn cael eu rhoi ar waith i’w rheoli.
- Mynychu cyfarfodydd â rhanddeiliaid gan gynnwys Undebau Llafur, TOC, BOC a phartneriaid mewnol / allanol eraill, gan sicrhau llif cyfathrebu dwyffordd ar yr holl risgiau, strategaethau a gwybodaeth sy’n ymwneud â diogelu refeniw a allai leihau, yn y pen draw, ein risgiau refeniw.
Cydnabod ac ymrwymo’n barhaus i’n ffyrdd aml-ddull newydd o weithio wrth i ni ddatblygu ein model trafnidiaeth integredig.
Bydd gofyn i chi weithio oriau anghymdeithasol, gan gynnwys gyda’r nos ac ar benwythnosau, yn arwain ac yn cefnogi’r tîm.
Am bwy rydym ni’n chwilio
- Sgiliau cryf amlwg o ran arwain a datrys problemau
- Sgiliau cyfathrebu rhagorol ar lafar ac ar bapur
- Sgiliau dadansoddi cadarn
- Profiad o weithio mewn diwydiant tebyg
- Gwybodaeth am gontractau masnachol, Gweithrediadau Refeniw, rheoliadau trin arian parod a’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR)
- Darparu atebion dan bwysau a gwneud penderfyniadau’n hyderus heb ormod o arweiniad
- Yn gyfforddus ac yn gymwys wrth gyflawni asesiadau dadansoddi llif gwaith
- Yn gyfarwydd â holl feddalwedd Microsoft Office, yn benodol Excel
- Gallu gwrando’n weithredol a chanfod cymorth i aelodau’r tîm gyda phethau fel cadwyn gofal, pryderon lles a rheoli absenoldeb
- Gallu delio â sefyllfaoedd o wrthdaro gan beidio â chynhyrfu
Sgiliau Iaith Gymraeg
Byddai’r gallu i sgwrsio ac ysgrifennu yn Gymraeg yn ychwanegiad gwych at eich cais, ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Mae Trafnidiaeth Cymru yn cefnogi ac yn hybu gweithwyr i ddefnyddio’r Gymraeg, a bydd yn eu hannog i ddatblygu, gwella a chadw eu sgiliau Iaith Gymraeg. Rydym yn rhoi cefnogaeth lawn i staff sydd eisiau gwella eu sgiliau Cymraeg, ac mae datblygiad personol ar gyfer sgiliau Iaith Gymraeg yn cael ei gynnig mewn amrywiaeth o ffyrdd megis dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth a chyrsiau cymunedol lleol
Y camau nesaf
A yw’r swydd hon yn swnio fel y cyfle rydych chi’n chwilio amdano? Hoffech chi gael gwybod mwy? Gweler y Disgrifiad Swydd sydd ynghlwm am ragor o fanylion.
Mae Trafnidiaeth Cymru yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Rydyn ni’n fodlon trafod unrhyw addasiadau rhesymol y bydd eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o’r swydd os byddwch chi’n llwyddiannus.
Bydd yr hysbyseb hon yn cau am hanner nos ar y diwrnod cau a nodir uchod. Rydyn ni’n eich annog i gyflwyno eich cais cyn gynted â phosibl.
* Cofiwch ein bod yn cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar os daw digon o geisiadau i law.
Job Types: Full-time, Permanent
Pay: £35,000.00-£45,000.00 per year
Work Location: In person